Browse Results

Showing 651 through 675 of 676 results

Chwedlau Cymru

by Claire Fayers Sian Lewis

Mwynhewch dreftadaeth gyfoethog Cymru o chwedlau a straeon tylwyth teg, wedi'u hail-adrodd ar gyfer darllenwyr ifanc. O ddreigiau hudolus Cymru sy'n dinistrio castell nos ar ôl nos, i dywysoges wedi'i gwneud allan o flodau a thrafferth newid tylwyth teg; o hela ffyddlon Gelert, i fachgen sy'n gofyn cwestiynau ac sy'n mynd ymlaen i fod y bardd Cymreig mwyaf adnabyddus erioed... [Enjoy Wales's rich heritage of myth and fairy tales, re-told for young readers. From magical Welsh dragons that destroy a castle night after night, to a princess made out of flowers and a fairy changeling bother; from loyal hunting hound Gelert, to a boy who asks questions and goes on to become the greatest Welsh bard ever known...]

Cors Caron

by Meleri Wyn James

"Caron? Fi sy 'ma, Dad. Caron... pam ti ddim yn ateb y ffôn?" Mae tir gwyllt y gors fel ail gartre i Caron, 15 oed, ac Iwan, ei ffrind gorau. Ond un pnawn mae'n mynd ar grwydr a dyw hi ddim yn dod yn ôl. Nofel gyffrous sy'n symud rhwng dau fyd, a stori hudolus am chwilio, am berthyn ac am ein newid agwedd at yr amgylchedd. [A mystery novel for children set against the backdrop of the Caron marshland in mid-Wales. The story moves swiftly between two worlds, and deals with themes of relationship, love and the change in our attitude towards the environment.]

Dreigio

by Alastair Chisholm Llyr Titus Eric Deschamps

Does dim dreigiau fan hyn, meddai pawb wrth Tomos. Un diwrnod, mae dieithryn yn ei wahodd i fod yn brentis glerc, ond yn fuan iawn daw Tomos i ddeall mai prentisiaeth lawer mwy cyffrous na dysgu bod yn glerc sydd o'i flaen - dysgu cadw a hyfforddi ei ddraig ei hun! Cenhaearn ydi ei henw hi, ac mewn dim o dro mae hi a Tomos yn brwydro i achub y bobl sydd agosaf atyn nhw. [The first book in a thrilling, magical, and action-packed new fantasy series, illustrated throughout and perfect for 9-11 year olds! In the land of Draconis, there are no dragons. Once, there were. Once, humans and dragons were friends, and created the great city of Rivven together. But then came the Dragon Storm, and the dragons retreated from the world of humans. Or have they...]

Ga' i Fyw Adra?

by Haf Llewelyn

Nofel sydd wedi ei gosod yn ystod gaeaf garw 1981, cyfnod pan oedd prisiau tai yn codi a phobl ifanc ardaloedd gwledig Cymru yn methu prynu tai yn eu bröydd. Nofel sy'n parhau'n berthnasol i broblemau Cymru heddiw. [A novel set during the hard winter of 1981, a period when house prices were rising and young people in rural Wales could not buy homes in their localities. A novel that remains relevant to life in Wales today.]

Heb Law Mam

by Heiddwen Tomos

Doedd ei mam hi ddim adre. Doedd hi ddim wedi bod adre ers wythnos. Dyma stori Efa a'i mam. Cemo fel caead bedd. Nofel lawn hiwmor a thristwch ar gyfer yr arddegau. [Her mum was not at home. She hadn't been home for a week. This is the story of Efa and her mum. Chemo like a coffin lid. A humorous novel, tinged with sadness, aimed at teenagers.]

Hedyn

by Caryl Lewis

Does dim llawer gan Marty. Yn wahanol i'w fam, sydd â biliynau o bethau: papurau newydd, sgidiau tyllog, fframiau wedi torri - mae'n cadw POPETH. Mae eu tŷ bron yn llawn dop. Mae Marty'n gwneud ei orau i edrych ar ôl ei fam ac yn meddwl a fydd unrhyw beth byth yn newid. Ond ar ben-blwydd Marty, mae Tad-cu yn rhoi hedyn arbennig iawn iddo. Dyw Tad-cu ddim wedi bod mor gyffrous â hyn ers iddo ddyfeisio'r Crafwr Pen-ôl 2000, neu ddychmygu ei fod wedi creu tanwydd gwyrthiol o ddail riwbob! Mae'r hedyn yn tyfu a thyfu, ac yn mynd â Tad-cu, Marty a'i ffrind gorau Gracie ar antur hudol, amhosib, sy'n llawn cariad, gobeithion a breuddwydion. [This is the first novel for this age by this prolific author. On his birthday, Marty receives a gift from his grandfather - a magical seed. Humorous and unusual, this story about making dreams come true will inspire and raise serious topics. Suitable for 9+.]

Pethe Brau

by Tennessee Williams Emyr Edwards

"The Glass Menagerie" yw un o ddramâu llwyddiannus cyntaf Tennessee Williams. Ac er i'w chefndir fod yn estron i Gymru, mae ei phwnc yn dragwyddol ei apêl. Prif thema Tennessee Williams yn ei holl ddramâu (a thybed nad hon yw prif thema pob llenor yn y bôn?) yw'r gwahaniaeth rhwng rhith a phethau'n union fel y maent. Rydym ni i gyd yn byw'n foethus yn ein dychymyg, ac yna daw bywyd bob dydd, a hynny'n greulon, i roi ysgytfa ddidostur inni a gwneud hwyl am ein pennau. Dyna yw'r ddrama hon - stori am gariad sy'n wefr yn y dychymyg, ac eto'n ddim ond rhith i'w ddistrywio gan bethau fel y maent - peth brau nad oes dim yn ei aros ond cael ei dorri. [Translation of one of Tennessee Williams' first successful plays, "The Glass Menagerie".]

Powell

by Manon Steffan Ros

Mae bod yn Powell yn fraint yn Nhrefair, ac mae Elis Powell, 15 oed, yn falch o'i gyndaid a adeiladodd gymaint o'r dref. Ond pan aiff Elis a'i daid ar drip i'r Unol Daleithiaui hel achau, maen nhw'n dod i wybod llawer mwy am hanes eu teulu, ac mae bod yn Powell yn sydyn yn teimlo fel baich... Nofel am deulu, cyfeillgarwch a phwysigrwydd cydnabod y ffeithiau i gyd. [This novel about the relationship between a grandfather and his grandson touches on Wales's relationship with slavery, and discusses how to acknowledge the horrors of history in a sensitive way. After exploring the family's ancestry, Elis and Taid journey to Virginia, USA to tread in the footsteps of Edward Powell.]

Sblash!

by Branwen Davies

Dyma nofel ar gyfer darllenwyr rhwng 10 ac 13 oed. Mae'n ymdrin â pherthynas rhwng plant ysgol, bwlio, a'r syniad o gorff perffaith. Mae Beca'n cael ei bwlio, ond mae ganddi gyfrinach - mae'n gobeithio cael ei dewis i dîm nofio Cymru. [A novel for girls between 10 and 13 years old mainly. It deals with the relationship between schoolchildren, bullying and the concept of a perfect body. Beca is being bullied, but she has a secret - she hopes to be chosen to be chosen as a member of the Welsh swimming team.]

TAG Safon Uwch CBAC Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant - Llwybr gofal plant. Unedau 3 a 4. CBAC

by Julia Berry

Mae’r llyfr hwn wedi’i ysgrifennu ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn CBAC TAG UG a Safon Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant, ac mae’n ymdrin ag Unedau 3 a 4 y fanyleb. Mae’r llyfr hefyd yn cynnig cefnogaeth dysgu I fyfyrwyr sy’n dilyn cymhwyster Lefel 3 Tystysgrif a Diploma mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau – mae’r cynnwys perthnasol wedi’I nodi ar ddechrau pob adran. Mae Unedau 3 a 4 y cwrs UG a Safon Uwch yn darparu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant yng Nghymru. Ymhlith y ffactorau hyn mae penderfynyddion cymdeithasol ac economaidd; tueddiadau poblogaeth; dewisiadau ffordd o fyw; deddfwriaeth a strategaethau; mentrau ac ymgyrchoedd y llywodraeth; damcaniaethau a modelau; egwyddorion a gwerthoedd; arferion gwaith a materion moesegol sy’n dylanwadu ar iechyd, llesiant a gwydnwch pobl, gan gynnwys eu hanghenion gofal a chymorth. Mae diffiniadau, gweithgareddau, astudiaethau achos, diagramau a chwestiynau ‘profi eich gwybodaeth’ ar gael drwy’r llyfr hwn sy’n galluogi myfyrwyr i wneud cysylltiadau clir rhwng ymarfer a theori. Mae gwybodaeth am rolau ymarferwyr gwahanol a llwybrau gyrfa posibl yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu eu cynlluniau o ran dilyn gyrfa werthfawr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant.

TAG Safon Uwch CBAC Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant - Llwybr gofal plant. Unedau 3 a 4. CBAC: (pdf)

by Julia Berry

Mae’r llyfr hwn wedi’i ysgrifennu ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn CBAC TAG UG a Safon Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant, ac mae’n ymdrin ag Unedau 3 a 4 y fanyleb. Mae’r llyfr hefyd yn cynnig cefnogaeth dysgu I fyfyrwyr sy’n dilyn cymhwyster Lefel 3 Tystysgrif a Diploma mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau – mae’r cynnwys perthnasol wedi’I nodi ar ddechrau pob adran. Mae Unedau 3 a 4 y cwrs UG a Safon Uwch yn darparu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant yng Nghymru. Ymhlith y ffactorau hyn mae penderfynyddion cymdeithasol ac economaidd; tueddiadau poblogaeth; dewisiadau ffordd o fyw; deddfwriaeth a strategaethau; mentrau ac ymgyrchoedd y llywodraeth; damcaniaethau a modelau; egwyddorion a gwerthoedd; arferion gwaith a materion moesegol sy’n dylanwadu ar iechyd, llesiant a gwydnwch pobl, gan gynnwys eu hanghenion gofal a chymorth. Mae diffiniadau, gweithgareddau, astudiaethau achos, diagramau a chwestiynau ‘profi eich gwybodaeth’ ar gael drwy’r llyfr hwn sy’n galluogi myfyrwyr i wneud cysylltiadau clir rhwng ymarfer a theori. Mae gwybodaeth am rolau ymarferwyr gwahanol a llwybrau gyrfa posibl yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu eu cynlluniau o ran dilyn gyrfa werthfawr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant.

Y Pair Dadeni (Manawydan Jones)

by Alun Davies

Nofel antur i'r arddegau cynnar - y nofel gyntaf ar gyfer yr oed yma gan awdur straeon y ditectif poblogaidd Taliesin MacLeavy. Y canolbwynt ydi bachgen mud 15 oed, Manawydan Jones, sy'n darganfod taw ei gyn-daid ydi Manawydan fab Llŷr o'r Mabinogi. Nofel hawdd i'w darllen gyda themâu dwys, yn rhoi gwedd newydd ar rai o straeon y Mabinogi i gynulleidfa ifanc. [An adventure novel for the early teens - the first novel by the author of the stories about popular detective Taliesing MacLeavy. The hero is 15 year old mute, Manawydan Jones, who discovers that he is descended from Manawydan fab Llŷr of the Mabinogi. An easy read with serious themes, presenting a modern look at some Mabinogi tales for a young audience.]

Y Tywysog a'r Dewin

by Siân Lewis

Wnei di fy helpu i achub Tywysog Cymru? Mae'r Brenin Edward wedi cipio cestyll Cymru, a dydi Ifor ddim yn rhy hapus am hynny. [Will you help me save the Prince of Wales? King Edward has seized the castles of Wales, and Ifor is not happy about the situation.]

CBAC Religious Studies for A Level & AS Key Thinkers: Ethics

by Gregory Barker

Welsh Language Edition. An essential companion to help students master one of the most important areas of their Religious Studies course in Ethics: knowing the key thinkers.- Provides an overview of each thinker's life and their ideas, with key dates, social context and why they are important.- Helps students understand the thinkers' main arguments and how they justified their approach to ethics, allowing students to evaluate the theories them for themselves.- Exam guidance section in each chapter provides a focus for revision and includes advice on how different types of questions could be tackled.- Encourages students to explore each area of scholarly knowledge required by the specification, from grasping key ideas to knowing how to best criticise a thinker's approach.- Puts ideas and theories into contemporary contexts to help students build their evaluation skills.- Timeline displaying an overview of the key dates for each thinker in relation to world events.- Key thinkers covered include Thomas Aquinas, John Stuart Mill, Thomas Hobbes and Jeremy Bentham.

Alaw Gobaith

by Rhian Ivory Elin Meek

Dyma nofel i'r arddegau am Alaw Gobaith, sy'n galaru am ei thad ac yn teimlo bod pawb a phopeth yn ei herbyn. Mae'n dioddef o'r cyflwr PMDD (Anhwylder Dysfforig cyn y Mislif) ac mae'n trio dod i delerau â hyn drwy helpu ar wardiau plant mewn ysbyty leol a thrwy gyfathrebu â bachgen wnaeth hi gwrdd ag ef ar hap ar y fferi yn ôl o Iwerddon. All e ei helpu? All hi ddod o hyd i'w Chynllun B? [A novel for teenagers about Alaw Gobaith, who is grieving for her father and feels that everything and everybody is against her. She suffers from PMDD (premenstrual dysphoric disorder) and tries to come to terms with this by assisting at a local hospital on childrens' wards, and by corresponding with a boy she met on the ferry while returning from Ireland. Will he be able to help her?]

Cadi Goch a'r Crochan Hud

by Simon Rodway

'Yng nghanol y llawr safai'r pair anferthol yn fygythiol fel anifail ysglyfaethus yn barod i neidio.' Dim ond Cadi Goch sy'n gwybod bod gan y crochan sy'n cael ei arddangos yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth bwerau hud. Mae ganddi reswm i gredu bod ei mam, brenhines greulon Gwlad y Tylwyth Teg yn cynllwynio i ddwyn y crochan er mwyn codi byddin anfarwol i'w helpu i adennill yr orsedd. All Cadi a'i ffrindiau ei rhwystro cyn ei bod yn rhy hwyr? [This is the second adventure for Cadi Goch and her friends in the School of Magic. Will they be able to stop the plot to steal the cauldron from the National Library? A Harry Potter style novel, but with a uniquely Welsh atmosphere.]

CBAC Lefel 1/2 Dyfarniad Galwedigaethol Celfyddydau Perfformio Cydymaith Cwrs

by Carys Edwards Marvin Thomas Sophie Angell-Jones

Mae’r llyfr hwn wedi’i ysgrifennu’n benodol ar gyfer cwrs Dyfarniad Galwedigaethol Lefel 1/2 Celfyddydau Perfformio (Dyfarniad Technegol). Mae’r llyfr wedi cael ei ysgrifennu er mwyn galluogi dysgwyr o alluoedd gwahanol i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i wneud cynnydd a chwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus.

Fy Nodiadau Adolygu (My Revision Notes: CBAC/Eduqas A-Level Year 2 Chemistry): (pdf)

by Richard Boole Alyn G. McFarland

Target exam success with My Revision Notes. Our updated approach to revision will help you learn, practise and apply your skills and understanding. Coverage of key content is combined with practical study tips and effective revision strategies to create a guide you can rely on to build both knowledge and confidence. My Revision Notes: WJEC/Eduqas A-level Chemistry will help you: - Develop your subject knowledge by making links between topics for more in-depth exam answers - Practise and apply your skills and knowledge with exam-style questions and frequent 'Now Test Yourself' questions with answer guidance online - Improve maths skills with helpful reminders and tips accompanied by worked examples - Avoid common mistakes and enhance your exam answers with 'Examiner tips' - Build quick recall with bullet-pointed summaries at the end of each chapter - Understand key terms you will need for the exam with user-friendly definitions and a glossary - Plan and manage your revision with our topic-by-topic planner and exam breakdown introduction

Lefel 1/2 Dyfarniad Galwedigaethol Celfyddydau Perfformio Cydymaith Cwrs

by Carys Edwards Marvin Thomas Sophie Angell-Jones

Mae’r llyfr hwn wedi’i ysgrifennu’n benodol ar gyfer cwrs Dyfarniad Galwedigaethol Lefel 1/2 Celfyddydau Perfformio (Dyfarniad Technegol). Mae’r llyfr wedi cael ei ysgrifennu er mwyn galluogi dysgwyr o alluoedd gwahanol i ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i wneud cynnydd a chwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus.

Mamiaith

by Patricia Forde Mari George

Wedi'r cynhesu byd eang daeth y Toddi Mawr. Wedyn, daeth yr Arch. Mae rheolwr newydd yr Arch eisiau gwahardd siarad am byth. Ond Crefftwr Geiriau ydi Mair, a'i gwaith yw cadw'r geiriau'n fyw. Yng nghysgodion y coed, mae hi a'r crefftwyr eraill yn dysgu'r plant am iaith, cerddoriaeth a chelf. [After the global warming came the Great Thaw. Following that came the Ark, whose new governor wants to prohibit speech for ever. Mair is a Word Crafter, and her work is to keep words alive. In the shadows of the trees, she and the other crafters teach the children about language, music and art.]

Mwy o Helynt

by Rebecca Roberts

Mae Rachel Ross wedi llwyddo i greu bywyd newydd gyda'i mam a'i chwaer, a setlo mewn ysgol newydd. Mae hi'n dechrau dod i adnabod Tony, ei thad go iawn, hefyd. Ond wrth i Jason, y dyn a'i magodd, baratoi i gael ei ryddhau o’r carchar, a oes ganddi le i boeni? Dilyniant i #Helynt, a enillodd wobrau Llyfr y Flwyddyn a Tir na n-Og yn 2021. [Rachel Ross has succeeded in creating a new life for herself and her mother, and has settled into her new school. She has also begun to get acquainted with Tony, her blood father. But should she feel anxious as Jason, the man who raised her, prepares to be released from prison? A sequel to #Helynt, winner of both Book of the Year and Tir na n-Og in 2021.]

Un Mewn Can Mil

by Linni Ingemundsen Meinir Wyn Edwards

Mae Sander, sy'n bymtheg oed, eisiau bod fel pawb arall. Ond mae ganddo syndrom Silver-Russell, anhwylder sy'n effeithio ar un mewn can mil o bobl. Mae Sander yn llai na'r plant eraill yn yr ysgol, lle mae'r rhai mwyaf eu maint a'u sŵn yn cael y sylw i gyd. Rhai fel Niklas. Mae pawb yn meddwl bod Niklas yn cŵl ac yn olygus - pawb ond Sander. Dyw e ddim yn hoff o'r ffordd mae Niklas yn brolio, yn ymddwyn fel idiot ac yn rhaffu celwyddau. Mae Niklas yn dal ac mae Sander yn teimlo'n hollol ddi-werth wrth ei ymyl. Ond mae Sander yn wahanol mewn sawl ffordd. Mae e'n sylwi ar bethau mae pobl eraill yn eu colli, ac mae e wedi sylwi ar rywbeth am Niklas... Clasur llawn emosiwn am dyfu i fyny, am ffitio i mewn, am sefyll allan ac am bŵer cyfeillgarwch. [A novel set in Norway, following the story of 15-year old Sander who suffers from Silver-Russell syndrome - a condition that affects one in one hundred million people. A raw and sensitive novel for teenagers, dealing with trying to conform with peers when feeling marginalised, and about the power of friendship.]

CBAC TGAU Daearyddiaeth Ail Argraffiad (WJEC GCSE Geography Second Edition Welsh-language edition): (pdf)

by Andy Owen Gregg Coleman Val Davis Bob Digby Andy Leeder Glyn Owen

Develop students' subject knowledge and skills. This fully revised edition features updated case studies, practice questions and clear presentation of key terms. > Contains coherent coverage of every core and optional theme in a single volume, with clear explanations of key concepts throughout > Engages and challenges students with an exciting, thematic approach, brought to life by Welsh, UK and international place references > Improves students' ability to interpret, analyse and evaluate geographical information through practical, skills-focused activities that involve data, maps and photographs > Boosts students' confidence approaching examination by providing extensive practice questions for each assessed theme This book also includes coverage of the Eduqas GCSE Geography A specification. Please note: This is a Welsh language edition.

Refine Search

Showing 651 through 675 of 676 results