Browse Results

Showing 26 through 50 of 676 results

Fy Nodiadau Adolygu (My Revision Notes: WJEC/Eduqas AS/A-Level Year 1 Chemistry) (Welsh Edition): (pdf)

by Sam Holyman

Target exam success with My Revision Notes. Our updated approach to revision will help you learn, practise and apply your skills and understanding. Coverage of key content in Year 1 is combined with practical study tips and effective revision strategies to create a guide you can rely on to build both knowledge and confidence. My Revision Notes: WJEC/Eduqas AS/A-level Chemistry will help you: · Develop your subject knowledge by making links between topics for more in-depth exam answers · Practise and apply your skills and knowledge with exam-style questions and frequent 'Now Test Yourself' questions with answer guidance online · Improve maths skills with helpful reminders and tips accompanied by worked examples · Avoid common mistakes and enhance your exam answers with 'Examiner tips' · Build quick recall with bullet-pointed summaries at the end of each chapter · Understand key terms you will need for the exam with user-friendly definitions and a glossary · Plan and manage your revision with our topic-by-topic planner and exam breakdown introduction

Merched Peryglus

by Angharad Tomos and Tamsin Cathan Davies

Dramâu'r Rhosys Cochion

by Sharon Morgan

Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr Y Lleisiau (Cyfres Miss Prydderch #3)

by Mererid Hopwood Rhys Bevan-Jones

Y trydydd teitl mewn cyfres o dair nofel am athrawes anghyffredin, Miss Prydderch a'i dosbarth o blant anturus. Tybed a all Alfred ac Elen ddychwelyd i Goedwig y Tylluanod a chyrraedd yn ôl i'r ysgol mewn pryd? [The third in a series of three novels about the extraordinary teacher, Miss Prydderch and her class of adventurous pupils. Will Alfred and Elen return to the Owl Forest and reach their school in time?]

Tyllau

by Louis Sachar Ioan Kidd

Addasiad Cymraeg o Holes gan Louis Sachar, a oedd yn un o'r goreuon yn y BBC Big Read Top 100. Clasur o nofel a fydd yn cynnig cyfoeth i'r darllenydd hen ac ifanc. [A Welsh translation of Holes by Louis Sachar, originally voted one of the best in the BBC Big Read Top 100. A novel sure to appeal to all readers, young and old.]

Dosbarth Miss Prydderch a Silff Y Sarff (Cyfres Miss Prydderch #2)

by Mererid Hopwood Rhys Bevan-Jones

Mae anturiaethau Miss Prydderch a'i dosbarth o ddisgyblion ar y carped hud yn parhau. Dyma'r ail nofel mewn cyfres o dair am Miss Prydderch, cymeriad diddorol iawn â thro yn ei chynffon. Nid yw popeth yn edrych fel ag y mae ar yr olwg gynta. Nofel ddyfeisgar a modern â'r stori'n seiliedig ar fywyd mewn ysgol ddigon cyffredin yr olwg, ond sydd ymhell o fod felly! [The adventures of Miss Prydderch and her class of pupils on the magic carpet continues. The second title in a trilogy about Miss Miss Prydderch, an interesting character with a twist in her tail. Everything is not as it looks at first glance. An inventive, contemporary novel relating a story based on life in a school that seems quite ordinary, but is far from it!]

Y Dyn Gwyrdd

by Gareth F. Williams

Un tro - yn reit ddiweddar, a dweud y gwir - roedd bachgen ifanc o'r enw Derwyn yn byw efo'i rieni mewn hen fwthyn yn y goedwig. Dysgai ei fam yn yr ysgol gynradd a'i dad yn yr ysgol uwchradd. Anodd iawn oedd dweud pa un ohonyn nhw oedd yn cwyno fwyaf. [One day - quite recently, in fact - a young boy named Derwyn lived in an old cottage in the woods. His parents were both teachers, his mother taught in the primary school and his father at the secondary school, but it was often difficult to tell which one complained the most.]

Dan Gadarn Goncrit

by Mihangel Morgan

Trydedd nofel un o awduron mwyaf lliwgar Cymru heddiw, sy'n nofel ddirgelwch wedi ei lleoli mewn tref brifysgol ac yn sylwebaeth ar berthynas pobl â'i gilydd ac ar fywyd cyfoes yn y Gymru Gymraeg. [A third novel by one of the most colourful authors of the present day, being a mystery novel set in a university town and a commentary on relationships and life in present day Wales.]

Dosbarth Miss Prydderch a'r Carped Hud (Cyfres Miss Prydderch #1)

by Mererid Hopwood Rhys Bevan Jones

Mentrwch gyda Miss Prydderch a'i dosbarth o ddisgyblion ar y carped hud i Goedwig y Tylluanod lle cewch weld rhyfeddodau, ond peidiwch, da chi, ag edrych i fyw llygaid Dr Wg ab Lin! Dyma'r teitl cyntaf mewn cyfres o dair nofel am yr athrawes anghyffredin, Miss Prydderch. Enillydd Gwobr Tir na n-Og 2018. [Venture on the magic carpet to the Forest of Owls with Miss Prydderch and her class of pupils where you will see many wonders, but at your peril will you look into the eyes of Dr Wg ab Lin! The first title in a series of three novels about the extraordinary teacher, Miss Prydderch. Tir na n-Og Award Winner 2018]

Yr Haf Gorau Erioed (Cyfres Strach)

by Gwenno Hughes

Nofel gyffrous wedi'i lleoli yn ardal Tregaron am anturiaethau criw o blant. Mae'r suon am drysor, cyffuriau a chyfrinachau o'r gorffennol yn peri i wyliau'r haf wibio heibio - yr haf gorau erioed! [An exciting novel about the summer escapades of a crew of children in the Tregaron area, with mention of treasure, drugs and secrets from the past making the summer fly - the best summer ever!]

Pethe Brau

by Tennessee Williams Emyr Edwards

"The Glass Menagerie" yw un o ddramâu llwyddiannus cyntaf Tennessee Williams. Ac er i'w chefndir fod yn estron i Gymru, mae ei phwnc yn dragwyddol ei apêl. Prif thema Tennessee Williams yn ei holl ddramâu (a thybed nad hon yw prif thema pob llenor yn y bôn?) yw'r gwahaniaeth rhwng rhith a phethau'n union fel y maent. Rydym ni i gyd yn byw'n foethus yn ein dychymyg, ac yna daw bywyd bob dydd, a hynny'n greulon, i roi ysgytfa ddidostur inni a gwneud hwyl am ein pennau. Dyna yw'r ddrama hon - stori am gariad sy'n wefr yn y dychymyg, ac eto'n ddim ond rhith i'w ddistrywio gan bethau fel y maent - peth brau nad oes dim yn ei aros ond cael ei dorri. [Translation of one of Tennessee Williams' first successful plays, "The Glass Menagerie".]

CBAC Physics for AS Level - Revision Workbook: (PDF)

by Gareth Kelly Nigel Wood

n/a

Y Pair Dadeni (Manawydan Jones)

by Alun Davies

Nofel antur i'r arddegau cynnar - y nofel gyntaf ar gyfer yr oed yma gan awdur straeon y ditectif poblogaidd Taliesin MacLeavy. Y canolbwynt ydi bachgen mud 15 oed, Manawydan Jones, sy'n darganfod taw ei gyn-daid ydi Manawydan fab Llŷr o'r Mabinogi. Nofel hawdd i'w darllen gyda themâu dwys, yn rhoi gwedd newydd ar rai o straeon y Mabinogi i gynulleidfa ifanc. [An adventure novel for the early teens - the first novel by the author of the stories about popular detective Taliesing MacLeavy. The hero is 15 year old mute, Manawydan Jones, who discovers that he is descended from Manawydan fab Llŷr of the Mabinogi. An easy read with serious themes, presenting a modern look at some Mabinogi tales for a young audience.]

Powell

by Manon Steffan Ros

Mae bod yn Powell yn fraint yn Nhrefair, ac mae Elis Powell, 15 oed, yn falch o'i gyndaid a adeiladodd gymaint o'r dref. Ond pan aiff Elis a'i daid ar drip i'r Unol Daleithiaui hel achau, maen nhw'n dod i wybod llawer mwy am hanes eu teulu, ac mae bod yn Powell yn sydyn yn teimlo fel baich... Nofel am deulu, cyfeillgarwch a phwysigrwydd cydnabod y ffeithiau i gyd. [This novel about the relationship between a grandfather and his grandson touches on Wales's relationship with slavery, and discusses how to acknowledge the horrors of history in a sensitive way. After exploring the family's ancestry, Elis and Taid journey to Virginia, USA to tread in the footsteps of Edward Powell.]

Sblash!

by Branwen Davies

Dyma nofel ar gyfer darllenwyr rhwng 10 ac 13 oed. Mae'n ymdrin â pherthynas rhwng plant ysgol, bwlio, a'r syniad o gorff perffaith. Mae Beca'n cael ei bwlio, ond mae ganddi gyfrinach - mae'n gobeithio cael ei dewis i dîm nofio Cymru. [A novel for girls between 10 and 13 years old mainly. It deals with the relationship between schoolchildren, bullying and the concept of a perfect body. Beca is being bullied, but she has a secret - she hopes to be chosen to be chosen as a member of the Welsh swimming team.]

Heb Law Mam

by Heiddwen Tomos

Doedd ei mam hi ddim adre. Doedd hi ddim wedi bod adre ers wythnos. Dyma stori Efa a'i mam. Cemo fel caead bedd. Nofel lawn hiwmor a thristwch ar gyfer yr arddegau. [Her mum was not at home. She hadn't been home for a week. This is the story of Efa and her mum. Chemo like a coffin lid. A humorous novel, tinged with sadness, aimed at teenagers.]

Rhoswen a'r Eira (Cyfres Maes y Mes)

by Nia Gruffydd Lisa Fox

Cyfres am dylwyth teg hoffus a hwyliog sydd yn ein dysgu i ofalu am ein byd, pwysigrwydd ffrindiau a helpu ein gilydd. Mae'r gaeaf wedi cyrraedd coedwig Maes y Mes ac mae Rhoswen wedi cyffroi'n lân o weld ei bod wedi bwrw eira'n drwm dros nos. Mae'n dychryn wrth iddi sylweddoli ei bod wedi ei chau i mewn gan y lluwchfeydd mawr a does gan Rhoswen ddim briwsionyn o fwyd yn y tŷ. Ond mae rhywun annisgwyl wedi tyrchu drwy'r eira ar ddrws ei thŷ, ac mae antur fawr yn dechrau i Roswen a'i ffrindiau! [One of four stories about the seasons for young children. This story is about Rhoswen, the winter fairy.]

Mwyaren a'r Lleidr (Cyfres Maes y Mes)

by Nia Gruffydd Lisa Fox

Cyfres am dylwyth teg hoffus a hwyliog sydd yn ein dysgu i ofalu am ein byd, pwysigrwydd ffrindiau a helpu ein gilydd. Mae hi'n hydref yng nghoedwig Maes y Mes, ac mae Mwyaren yn edrych ymlaen at gasglu mwyar duon i wneud tarten flasus. Ond mae helbul mawr yn y goedwig. Mae Swnyn ar goll. Ac mae rhywun yn dwyn oddi ar sil ffenest Nain Derwen. A fydd Mwyaren yn dod o hyd i Swnyn ac yn datrys dirgelwch y lleidr? [A series about likeable and fun fairies, which teaches us to look after our world, the importance of friends and helping each other. It's autumn in the Maes y Mes forest, and Mwyaren is looking forward to picking blackberries to make a tart. But there's big trouble in the forest. Swnyn is lost. And someone is stealing from Nain Derwen's window sill. Will Mwyaren find Swnyn and solve the mystery of the thief?]

Brwynwen a'r Aderyn Anferth (Cyfres Maes Y Mes)

by Nia Gruffydd Lisa Fox

Cyfres am dylwyth teg hoffus a hwyliog sydd yn ein dysgu i ofalu am ein byd, pwysigrwydd ffrindiau a helpu ein gilydd. Mae Brwynwen yn teimlo'n gyffrous iawn. Mae'n ddiwrnod cyntaf y gwanwyn a phob un o'r tylwyth teg yn gwisgo'u dillad gwyrdd. Mae gwaith pwysig iawn i'w wneud ac mae angen pob pâr o ddwylo i helpu'r adar bach! Ond sut yn y byd mae'r twmpath mawr o fwsog yn diflannu o hyd? [One of four stories about the seasons for young children. This story is about Brwynwen, the spring fairy.]

Briallen a Brech Y Mêl (Cyfres Maes Y Mes)

by Nia Gruffydd Lisa Fox

Cyfres am dylwyth teg hoffus a hwyliog sydd yn ein dysgu i ofalu am ein byd, pwysigrwydd ffrindiau a helpu ein gilydd. Mae hi'n ganol haf yng nghoedwig Maes y Mes. Mae'r babell fawr wedi ei gosod a phawb yn edrych ymlaen at barti Dydd Gwyl Ifan. Mae Briallen wedi cynllunio ei ffrog berffaith ond druan â hi – mae wedi dal brech y mêl! A fydd hi'n gallu mynd i Siop Sidan i nôl ei gwisg a chael hwyl yn y parti gyda'i ffrindiau? [One of four stories about the seasons for young children. This story is about Briallen, the summer fairy.]

#helynt

by Rebecca Roberts

Mae colli'r bws i'r ysgol yn gallu newid dy fywyd di ... Penderfyna Rachel fynd ar antur yn nhre'r Rhyl yn hytrach na mynd adref (wedi'r cyfan, mae'r beili wedi mynd â char ei thad), gan ganfod ei hun mewn clwb nos ar lan y môr. [Rachel Ross spends much of her time outside school caring for her mother, who suffers from depression, and her younger sister; but the highlights of her week are the drama group sessions she belongs to. She feels safe there ... a different experience to school, where she is bullied because of her disability.]

Sw Sara Mai

by Casia Wiliam Gwen Millward

Croeso i fyd Sara Mai, lle mae glanhau pw eliffant yn apelio lot mwyn na mynd i'r ysgol, ac mae'n llawer haws deall ymddygiad arth o'r Andes na merched eraill Blwyddyn 5. Bydd yn barod i chwerthin a chrio wrth i Sara Mai rannu ei bywyd gyda ni; o'r jiraff sydd ag ofn uchder i eiriau sbeitlyd amser chwarae, a'r frwydr anferth i achub y peth pwysicaf yn ei bywyd. Croeso i Sw Sara Mai. [Welcome to the world of Sara Mai, where cleaning up eliphant poo is much more appealing than going to school, and it's easier to understand the behaviour of a bear from the Andes than other Year 5 girls. Be prepared to laugh and cry as Sara Mai shares her life with us; from the giraff who is scared of heights to spiteful words on the school yard, and the huge battle to save the most important thing in her life. Welcome to Sara Mai's Zoo.]

Y Pibgorn Hud

by Gareth Evans

Nofel antur wedi'i lleoli ym merw'r chweched ganrif ym Mhrydain yn y flwyddyn 552. Ynys ranedig, llawn tensiwn, sy'n bygwth ffrwydro fel llosgfynydd. Ynys sy'n simsanu ar ôl i'r pla sgubo drwy'r tir. Y cleddyf sy'n rheoli bellach, ac mae'n rhaid i bawb ddilyn y drefn. Yn enwedig plant. Yn enwedig merched. Pawb heblaw merch deuddeg oed o'r enw Ina. [An adventure novel set amidst the turmoil of 6th century Britain. Its the year 552 and the island is divided, with tensions threatening to explode like a volcano. The island is unsteady after the plague that has swept the land; the sword rules and everyone has to bow to the law. Especially children. Especially women. Everyone, apart from 12 year old Ina.]

Refine Search

Showing 26 through 50 of 676 results