Browse Results

Showing 101 through 125 of 677 results

Antur y Da-Da (Saith Selog)

by Enid Blyton Eirian Jones

Addasiad Manon Steffan Ros o The Humbug Adventure, un o deitlau'r gyfres Secret Seven gan Enid Blyton. Dilynwn y saith ffrind wrth iddynt atal tân rhag lledu a chanfod pwy gynheuodd y tân. Rhan o gyfres o straeon cyffrous sy'n targedu darllenwyr 5 i 8 oed ac yn eu paratoi at ddarllen cyfres Pump Prysur gan yr un awdures. [A Welsh adaptation by Manon Steffan Ros of The Humbug Adventure, one of the titles of the Secret Seven series by Enid Blyton. We follow the seven friends as they raise the alarm about a spreading fire and find out who started it. Part of an exciting series that targets 5-8 year old readers and prepares them for the Famous Five series by the same author.]

Ble Mae'r Saith Selog? (Saith Selog)

by Enid Blyton Manon Steffan Ros

Pan mae'r Saith Selog yn ymweld â hen dy gwag, maen nhw'n sylweddoli nad ydi o'n wag wedi'r cyfan! A fyddan nhw'n gallu dianc ar ôl cael eu cloi yn yr hen le dychrynllyd? Addasiad Manon Steffan Ros o Where are the Secret Seven? ar gyfer darllenwyr 5-8 oed. [The new series follows the adventures of seven children who have formed a secret club in a shed at the bottom of the garden. The series includes six titles of page-turning adventures in Welsh adaptations by Manon Steffan Ros. In this story, the friends visit an old empty house, but soon realise it isn't empty after all! Aimed at 5-8 year old readers.]

Antur ar y Ffordd Adref (Saith Selog)

by Enid Blyton

Addasiad Manon Steffan Ros o Adventure on the Way Home, un o deitlau'r gyfres Secret Seven gan Enid Blyton. Stori antur am saith ffrind yn ceisio datrys dirgelwch, a rhan o gyfres gyffrous wych sy'n addas i ddarllenwyr 5 i 8 oed, ac sy'n eu paratoi ar gyfer symud ymlaen i ddarllen y gyfres Pump Prysur. [Manon Steffan Ros's Welsh adapatation of Adventure on the Way Home, one of Enid Blyton's stories in the Secret Seven series. An adventure story about seven friends trying to unravel a mystery, which is part of an exciting series for 5-8 year old readers in an excellent series which prepares them for the Famous Five series.]

Pump yn Achub y Dydd (Pump Prysur)

by Enid Blyton Manon Steffan Ros

Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o The Famous Five: Five To The Rescue. Stori fer gyda lluniau lliw newydd sbon. Pan mae'r Pump Prysur yn cael picnic ar lan y môr, maen nhw'n gweld oen mewn trafferth. Gyda neb arall wrth law i helpu, rhaid i'r Pump fynd ati i'w achub o'r tonnau. A fyddan nhw'n cyrraedd mewn pryd? [A Welsh adaptation by Manon Steffan Ros of The Famous Five: Five To The Rescue. A short story with brand new colour illustrations. When the Famous Five have a picnic at the seaside, they see a lamb in trouble. As there is no-one else around, the Five have to attempt to rescue him from the sea. Will they reach him in time?]

Twm yn Hela Cathod (Pump Prysur)

by Enid Blyton Manon Steffan Ros

Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o The Famous Five: Timmy chased the Cat! gan Enid Blyton. Mae’r Pump Prysur ar eu ffordd i’r sinema pan mae Twm yn rhedeg ar ôl cath, gan arwain y giang at dy mawr gwag. Ond ydi o’n wag mewn gwirionedd? Mae’r synau rhyfedd yn awgrymu’n wahanol... [An original Enid Blyton short story with brand new full-colour illustrations. A perfect introduction for new readers, and an exciting way to enjoy classic Famous Five tales by Enid Blyton in Welsh.]

Pump Mewn Penbleth (Pump Prysur)

by Enid Blyton Manon Steffan Ros

Dyma eich cyfle i fwynhau mwy o anturiaethau Siôn, Dic, Jo, Ani a Twm - y Pump Prysur. Mae Jo yn gweld golau ar Ynys Curig yng nghanol y nos. Dyma'r cliw cyntaf fod pobl ddieithr wedi glanio ar yr ynys. Pwy yw'r ymwelwyr hyn, a pham maen nhw ar yr ynys o gwbl? [An original Enid Blyton short story with brand new full-colour illustrations. A perfect introduction for new readers, and an exciting way to enjoy classic Famous Five tales by Enid Blyton in Welsh.]

Antur y Pen-blwydd (Pump Prysur)

by Enid Blyton Manon Steffan Ros

Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o The Famous Five: The Birthday Adventure. Stori fer gyda lluniau lliw newydd sbon. Mae Jo ar ei ffordd i barti pen-blwydd gydag anrheg arbennig iawn. Ond gwell iddi fod yn ofalus! Mae dau leidr yn dynn ar ei sodlau, ac maen nhw'n torri eu boliau i gael gafael ar yr anrheg... [A Welsh adaptation by Manon Steffan Ros of The Famous Five: The Birthday Adventure. A short story with brand new colour illustrations. Jo is on her way to a birthday party with a special gift, but she needs to be careful! Two thieves are hot on her heels, and they are intent on getting their hands on the gift...]

Mae Gwallt Jo yn Rhy Hir (Pump Prysur)

by Enid Blyton

Teitl mewn cyfres newydd o straeon byrion gan Enid Blyton i ddarllenwyr ifanc sy'n gyflwyniad gwych i anturiaethau'r 'Famous Five' yn Gymraeg. Mae'r stori hon yn adrodd hanes Jo yn mynd i dorri ei gwallt, ond yn cael ei dal ynghanol lladrad. Addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros ac arlunwaith bywiog newydd Jamie Littler. [One of the titles in a new series of Welsh-language short stories adapted by Manon Steffan Ros, and a perfect introduction to Enid Blyton's 'The Famous Five' books for young readers, available in Welsh for the very first time. In this story, Jo goes for a haircut, but is caught in the middle of a robbery.]

Nadolig Llawen, Pump Prysur (Pump Prysur)

by Enid Blyton Manon Steffan Ros

Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o The Famous Five: Happy Christmas Five gan Enid Blyton. Mae’n noswyl Nadolig, ac mae’r Pump Prysur yn llawn cyffro am y mynydd o anrhegion sy’n eu haros – yn enwedig Twm! Ond pan mae Twm yn cyfarth yn wyllt, caiff ei ddanfon allan i’r cwt, gan adael lleidr i ddwyn yr anrhegion. A fydd Twm yn achub y dydd? [An original Enid Blyton short story with brand new full-colour illustrations. A perfect introduction for new readers, and an exciting way to enjoy classic Famous Five tales by Enid Blyton in a Welsh translation by Manon Steffan Ros.]

Pnawn Diog (Pump Prysur)

by Enid Blyton

Un o deitlau cyfres newydd o straeon byrion Enid Blyton i ddarllenwyr ifanc, ac sy'n gyflwyniad gwych i anturiaethau'r 'Famous Five' yn Gymraeg. Yn y stori 'Pnawn Diog' mae'r 'Pump' am fwynhau pnawn diog, ond ai felly mae hi fod! A beth mae'r dynion ar y motobeics yn ei wneud? Addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros a chyfoeth o luniau lliw deniadol gan Jamie Littler. [One of the titles in a new series of Welsh-language short stories adapted by Manon Steffan Ros, and a perfect introduction to Enid Blyton's 'Famous Five' books for young readers, available in Welsh for the very first time. The five friends are looking forward to a lazy afternoon, but things don't go according to plan!]

Go Dda, Twm (Pump Prysur)

by Enid Blyton

Stori mewn cyfres newydd o straeon byrion gan Enid Blyton sy'n gyflwyniad gwych i anturiaethau'r 'Famous Five' yn Gymraeg. Yn y stori hon, mae'r 'Pump' yn gweld bachgen bach yn cael ei herwgipio ar y traeth, ac maent yn benderfynol o ddod o hyd iddo. Tybed a fydd Twm yn canfod yr ateb? Addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros a chyfoeth o luniau lliw deniadol gan Jamie Littler. [One of the titles in a new series of Welsh-language short stories adapted by Manon Steffan Ros, and a perfect introduction to Enid Blyton's 'Famous Five' books for young readers, available in Welsh for the very first time. This story relates the endeavours of the 'Five' to find a little boy who is kidnapped on the beach.]

Antur Hanner Tymor (Pump Prysur)

by Enid Blyton

Rhan o gyfres newydd o straeon byrion gan Enid Blyton sy'n gyflwyniad gwych i ddarllenwyr ifanc i anturiaethau'r 'Famous Five' yn Gymraeg. Yn y stori hon mae Twm y ci yn amheus o deithiwr ar y trên, ond tybed a all y 'Pump' ddatrys y dirgelwch? [One of the titles in a new series of Welsh-language short stories adapted by Manon Steffan Ros, and a perfect introduction to Enid Blyton's 'Famous Five' books, available in Welsh for the very first time. In this story, the 'Five' try to solve the mystery of a suspicious train traveller.]

Da Iawn, Pump Prysur (Pump Prysur)

by Enid Blyton Manon Steffan Ros

Dyma eich cyfle i fwynhau mwy o anturiaethau Siôn, Dic, Jo, Ani a Twm - y Pump Prysur. Un diwrnod, mae ceffyl rasio enwog yn diflannu a neb yn gwybod i ble mae'r ceffyl wedi mynd. Bydd rhaid wrth help y Pump Prysur i ddod o hyd iddo ac i wneud yn siŵr nad ydy'r ceffyl wedi'i anafu. Mae pawb yn dibynnu ar y Pump Prysur! [An original Enid Blyton short story with brand new full-colour illustrations. A perfect introduction for new readers, and an exciting way to enjoy classic Famous Five tales by Enid Blyton in Welsh.]

WJEC GCSE Biology (My Revision Notes (PDF))

by Jeremy Pollard Adrian Schmit

Exam Board: WJECLevel: GCSESubject: BiologyFirst Teaching: September 2016First Exam: June 2018Welsh edition.Develop your scientific thinking and practical skills with resources that stretch and challenge all levels within the new curriculum produced by a trusted author team and the established WJEC GCSE Science publisher. - Prepare students to approach exams confidently with differentiated Test Yourself questions, Discussion points, exam-style questions and useful chapter summaries.- Provide support for all required practicals along with extra tasks for broader learning. - Support the mathematical and Working scientifically requirements of the new specification with opportunities to develop these skills throughout. - Supports separate science Biology and also suitable to support the WJEC GCSE Science (Double Award) qualification. *Datganiad hawlfraint Gwneir y copi hwn dan dermau Rheoliadau (Anabledd) Hawlfraint a Hawliau mewn Perfformiadau 2014 i'w ddefnyddio gan berson sy'n anabl o ran print yn unig. Oni chaniateir gan gyfraith, ni ellir ei gopïo ymhellach, na'i roi i unrhyw berson arall, heb ganiatâd.

Seren Wib a Straeon Eraill

by Amrywiol Meinir Wyn Edwards

Cyfrol o straeon byrion ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 (12-15 oed). Bydd y gyfrol hon yn cynnwys straeon gan awduron profiadol a rhai newydd e.e. Jon Gower, Manon Steffan Ros, Miriam Elin a Gwennan Evans. [A volume of short stories for Key Stage 3 (12-15 years old) pupils comprising 10 stories written by experienced and new authors, e.g. Jon Gower, Manon Steffan Ros, Miriam Elin and Gwennan Evans.]

Diwrnod Ofnadwy! (Cyfres Lolipop)

by Haf Llewelyn Helen Flook

Nofel hanesyddol i blant wedi'i gosod yn oes y Rhufeiniaid. Mae Buddug yn ferch ifanc o un o lwythau'r Celtiaid sy'n ofni mynd i nôl dŵr o'r ffynnon rhag ofn iddi weld Antoniws Ffyrnigws, y milwr Rhufeinig gwaethaf un, yno. Ond rhaid bod yn ddewr, ac yng nghwmni ei ffrind Gwen Gafr, mae Buddug yn gwneud sawl darganfyddiad. [A historical novel for young readers set in the Roman era. Buddug is a young Celtic girl who doesn't like going to fetch water from the well as she fears meeting Antoniws Ffyrnigws, the most cruel of the Romans. But needs must, and her journey to the well with her friend Gwen the goat results in more than one discovery.]

Llanast! (Cyfres Lolipop)

by Mari Lovgreen Helen Flook

Merch fach daclus iawn yw Anni Wyn, â phob blewyn yn ei le, ac mae hi wedi cael hen ddigon ar fyw gyda'i rhieni anhrefnus. Byddai'n llawer gwell ganddi fyw drws nesaf yng nghartref taclus ei ffrind gorau, Begw. Ond mae Anni'n cael syndod o glywed y byddai'n well gan Begw fyw yng nghartref bywiog Anni! [A novel for young readers, about Anni Wyn who always looks without a hair out of place, but has had enough of living with her disorganized parents. She would rather live next door, at her best friend, Begw's home, but is surprised to find that Begw would rather live at Anni's lively house!]

Nefoedd yr Adar (Cyfres Lolipop)

by Ceris James Helen Flook

Mae un aderyn bach yn y goedwig yn cael syniad gwych o greu band, ond tybed a fydd y criw yn cael llwyddiant wrth gystadlu yn eisteddfod y goedwig? [A novel for children, about a little bird's brainwave of forming a band, but will the crew be successful at the forest eisteddfod?]

Arian Poced Morgan (Cyfres Lolipop)

by Rhian Mair Evans Eric Heyman

Morgan oedd un o fechgyn mwyaf trwsgl Cymru - ble bynnag roedd e'n mynd a beth bynnag roedd e'n ei wneud, roedd rhywbeth yn mynd o'i le. Wedi gweld hysbyseb ar y teledu am degan deinosor Y Tanosorws Tanllyd am ddeg punt, roedd Morgan yn benderfynol o ennill digon o arian poced i brynu un. [Morgan was one of Wales's clumsiest boys - wherever he went, and whatever he did, something would go wrong. After seeing a TV advertisement for a #10 toy dinosaur, called Y Tanosorws Tanllyd, Morgan was determined to earn enough pocket money to buy one.]

Pst, Ti'n Grêt! (Cyfres Lolipop)

by Gwen Redvers Jones Eric Heyman Helen Flook

Roedd Sion yn drist oherwydd byddai symud i fferm yn fwy yn golygu y byddai'n gadael ei ffrind gorau ar ôl. Ond doedd Mam a Dad ddim yn gwybod am fodolaeth y 'ffrind' - ysbryd bach cyfeillgar a drygionus, o'r enw 'Pst', achos dyna'r unig air a ddywedai. Roedd Pst wedi cael Siôn mewn ac allan o drwbwl sawl gwaith ac roedden nhw'n cael tipyn o sbri. [Sion was sad because moving to a larger farm would mean leaving his best friend behind. But mam and dad did not know about the 'friend' - a friendly but naughty spirit. He was called 'Pst', because that was all he said. Pst had got Sion in and out of trouble many times, and they had lot's of fun.]

Y Lleidr Llaeth (Cyfres Lolipop)

by Gwenno Hughes Helen Flook

Stori hwyliog i ddarllenwyr 6-8 oed gyda lluniau lliwgar drwy'r testun. Nefoedd yr adar! Beth sy'n digwydd yn Stryd Rhyd-y-Byd? Mae poteli llaeth pawb wedi diflannu oddi ar stepen drws bob tŷ. Felly mae Deio a Dwynwen yn penderfynu troi'n dditectifs er mwyn trio datrys y dirgelwch. Tybed a fyddan nhw'n llwyddo? [A lively, fully illustrated story for 6-8 year olds. Dear me! What is happening in Rhyd-y-Byd Street? Everybody's milk bottles have disappeared from each door step. Deio and Dwynwen therefore decide tio become detectives in order to solve the mystery. Will they succeed?]

Blwch yr Ysbryd

by Catherine Fisher

Mae Sara'n casáu ei llysfrawd newydd, Mat, sy'n Goth. Fyddai hi byth bythoedd yn dweud wrtho am ei breuddwydion rhyfedd. Am yr wyneb yn y goeden, y llygaid sy'n ei gwylio. Ac yn bendant ddywedai hi ddim gair am y blwch - gallai hynny olygu bod y breuddwydion yn rhai go iawn. Pwy sy'n gwau gwe o ofn o gwmpas Sara? Oes rhywun y gall hi ymddiried ynddo? [Sarah hates her new Goth step-brother, Matt. There's no way she'd tell him about her weird dreams. About the face in the tree, the eyes that watch her, and definitely not about the box that could mean the dreams are real. Who is spinning a web of fear around Sarah? And who can she trust to free her?]

Calon y Gwir

by Judy Waite

Mae gan Eli esgus perffaith am fod allan yn hwyr - fe geisiodd dyn ei herwgipio hi! Mae'r manylion i gyd ganddi. Mae'n chwip o stori dda. Dyw hi ddim yn wir, dyna i gyd. Felly pan fydd merch yn cael ei herwgipio go iawn, sut y gall Eli wneud yn siŵr nad yw ei chelwydd hi yn amddiffyn llofrudd? [Elsa has the perfect excuse for being out late - a man tried to kidnap her! She's got all the details. It's a really good story. It's just not true. So when a girl is kidnapped for real, how can Elsa make sure her lies don't protect a killer?]

Dwi'n Gwylio Ti!

by Lee Weatherly

'Ti'n meddwl bo ti'n glefer, on'd wyt ti. Ond ni'n gwylio pob symudiad. Cei di dy gosbi am beth wnest ti.' Gadawodd mam Sara saith mlynedd yn ôl. Nawr mae'n byw rhai milltiroedd i ffwrdd - ond mae hi'n osgoi Sara. Ond mae Sara'n gallu ei gweld hi. Yn fwy na hynny, mae Sara'n ei gwylio hi. Ac mae'n bwriadu talu'r pwyth ... ['You're not as clever as you think you are. We're watching your every move. You're going to be punished for what you did.' Sarah's mum walked out seven years ago. Now she lives just a few miles away - but she doesn't want to see Sarah. But Sarah can see her. In fact, Sarah's watching her. And she has plans to make her pay …]

Dal ati, Gwen! (Cyfres Lolipop)

by Siân Lewis Helen Flook

Merch swil iawn yw Gwen sy'n gwrthod cymryd rhan yn sioe'r ysgol. Ond gyda thipyn bach o gymorth gan y parot bach doniol sy'n dod i aros dros dro yn ei thŷ mae Gwen yn llwyddo i fagu ychydig o hunanhyder. [A novel for young readers about Gwen, a shy girl who refuses to take part in the school play. But with some help from the amusing little parrot that comes to stay overnight at her home, Gwen gains self-confidence.]

Refine Search

Showing 101 through 125 of 677 results